Rhwydweithiau Ecolegol â Blaenoriaeth
Rhwydweithiau Ecolegol â Blaenoriaeth yn yr amgylchedd daearol
Mae Rhwydweithiau Ecolegol â Blaenoriaeth yn yr amgylchedd daearol yn fathau o rwydweithiau cynefinoedd Cymru gyfan sy’n dangos ardaloedd o gysylltedd rhwng safleoedd gwarchodedig, ac felly’n darparu fframwaith i lywio lleoliad gweithredu i adeiladu rhwydweithiau ecolegol gwydn a swyddogaethol yn seiliedig ar ein mannau pwysicaf ar gyfer bioamrywiaeth. Camau gweithredu nodweddiadol fyddai gwella, adfer neu greu cynefinoedd, wedi’u lleoli o fewn ffiniau Rhwydwaith ecolegol â Blaenoriaeth, neu wedi’u lleoli ar ei ymylon, i gydgrynhoi, ymestyn neu gysylltu gwahanol Rwydweithiau Ecolegol â Blaenoriaeth. Mae’r Rhwydweithiau Ecolegol â Blaenoriaeth hyn yn disodli haenau system gwybodaeth ddaearyddol a elwid gynt yn ‘rhwydweithiau Lefel 2’, ac maent ar gael ar gyfer y canlynol:
Coetiroedd brodorol, glaswelltiroedd lled-naturiol, rhostiroedd, corsydd, ffeniau a thwyni tywod
Mae’r holl rwydweithiau blaenoriaeth hyn hefyd yn cael eu cynrychioli fel map ‘Llecynnau Rhwydweithiau Ecolegol â Blaenoriaeth’, sy’n gyfrif syml o’r holl rwydweithiau sydd ar gael o fewn 1km sgwâr penodol i gael ‘cipolwg’ ar draws Cymru.
Yn ogystal, mae Rhwydweithiau Ecolegol â Blaenoriaeth y ‘coetiroedd brodorol’ a’r ‘glaswelltiroedd lled-naturiol’ wedi cael diweddariadau ar ffurf rhwydweithiau ychwanegol i ddarparu ar gyfer ein cyfres ddiweddaraf o safleoedd gwarchodedig a gwybodaeth arolwg ac maent yn ehangu y tu hwnt i’r hyn a oedd ar gael yn wreiddiol. Mae rhostiroedd, corsydd a ffeniau wedi’u huno o’u fersiynau ucheldirol ac iseldirol ar wahân yn wreiddiol yn setiau data unigol ac mae rhwydwaith ‘twyni tywod’ nas cyhoeddwyd o’r blaen hefyd wedi’i gynnwys bellach. Mae Rhwydwaith Ecolegol â Blaenoriaeth dŵr croyw yn yr arfaeth.
Sylwer: Mae’r haenau mapiau unigol hyn yn ddisgrifiad wedi’i fodelu o gysylltedd cyfredol rhwng cynefinoedd ac felly dylid eu hystyried fel rhai disgrifiadol yn hytrach na rhai rhagnodol!
Yn ogystal â’r set hon o rwydweithiau blaenoriaeth, mae’n ddefnyddiol hefyd gallu gweld yr haenau hyn ochr yn ochr â setiau data agored eraill sydd ar gael i’w lawrlwytho o MapDataCymru gan ddefnyddio’r dolenni isod:
Ffiniau Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig:
Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) | MapDataCymru (llyw.cymru)
Ffiniau SoDdGA wedi’u clustogi i 300m
WOM21 Byffer 100/300m Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) / Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) | MapDataCymru (llyw.cymru)
Rhwydwaith Ecolegol â Blaenoriaeth yn yr amgylchedd morol
Ar y môr, sefydlwyd rhwydwaith ecolegol gydlynol o Ardaloedd Morol Gwarchodedig a fydd, pan fydd mesurau ar waith i sicrhau cyflwr da, yn ffurfio Rhwydwaith Ecolegol Gwydn y môr.
Mae cysylltedd o fewn rhwydwaith yr Ardaloedd Morol Gwarchodedig yn gynhenid dda, ond mae’n hysbys bod rhai o’r nodweddion (rhywogaethau a chynefinoedd y dynodwyd y safleoedd ar eu cyfer) mewn cyflwr anffafriol (Cyfoeth Naturiol Cymru / Asesiadau cyflwr nodweddion dangosol ar gyfer Safleoedd Morol Ewropeaidd).
Mae map y Rhwydwaith Ecolegol â Blaenoriaeth morol yn dangos maint llawn rhwydwaith yr Ardaloedd Morol Gwarchodedig (glas golau), gan amlygu’r safleoedd lle mae’n hysbys bod un neu ragor o nodweddion mewn cyflwr anffafriol (ardal â chroeslinellau).
Yn yr ardaloedd hyn â chroeslinellau, mae angen gweithredu i gyflwyno mesurau sy’n adfer nodweddion, yn lleihau’r pwysau i’w galluogi i wella, neu’n casglu’r dystiolaeth y mae ei hangen i gynorthwyo rheolaeth effeithiol.
Mae CNC yn parhau i gasglu ac asesu gwybodaeth am gyflwr cynefinoedd a rhywogaethau ar draws rhwydwaith yr Ardaloedd Morol Gwarchodedig. Bydd fersiynau o’r Rhwydwaith Ecolegol â Blaenoriaeth morol yn y dyfodol yn ymgorffori tystiolaeth a dealltwriaeth newydd wrth iddynt ddod ar gael.
Ochr yn ochr â’r Rhwydwaith Ecolegol â Blaenoriaeth morol, gallai fod yn ddefnyddiol edrych ar y canlynol:
Cyfoeth Naturiol Cymru / Asesiadau cyflwr nodweddion dangosol ar gyfer Safleoedd Morol Ewropeaidd: adroddiadau o asesiadau cyflwr nodweddion dangosol a gynhaliwyd yn 2018.
Cyfoeth Naturiol Cymru / Cynlluniau Gweithredu Thematig Rhaglen N2K LIFE: sydd yn cynnwys gwybodaeth am bwysau a bygythiadau allweddol sy’n effeithio ar safleoedd a nodweddion o fewn y Rhwydwaith Ecolegol â Blaenoriaeth morol.
Mae setiau data agored defnyddiol eraill sydd ar gael i’w lawrlwytho o MapDataCymru yn cynnwys:
Ardaloedd Morol Gwarchodedig yn Nyfroedd Cymru | MapDataCymru (llyw.cymru): mae rhwydwaith yr Ardaloedd Morol Gwarchodedig yn cynnwys y canlynol: Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig, Safleoedd Ramsar, Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a Pharth Cadwraeth Morol.
Nodweddion Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) Morol | MapDataCymru (llyw.cymru): maint sylfaenol dangosol a statws nodweddion cynefinoedd Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ar adeg dynodi safle.
Cydnabyddiaeth:
Yn cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru © Cyfoeth Naturiol Cymru a Hawl Cronfa Ddata. Cedwir pob hawl. Yn cynnwys data Arolwg Ordnans. Rhif Trwydded Arolwg Ordnans AC0000849444. Hawlfraint y Goron a Hawl Cronfa Ddata.
- Dull adnabod
- Rhychwant
- Dosbarthiad
- Ansawdd
- Allweddeiriau
- System Cyfeirio Gofodol
- Cynnwys
- Cyfyngiadau
- Cynnal a chadw
- Metadata
Dull adnabod
- Dynodydd
- NRW_DS125572
- Teitl Amgen
-
- Priority Ecological Networks (PENs)
- Bog PEN 2023.lyr
- Fen PEN 2023.lyr
- Heathland PEN 2023.lyr
- Marine PEN 2023.lyr
- Native Woodland PEN 2023.lyr
- PEN Hotspot 2023.lyr
- Sand Dune PEN 2023.lyr
- Semi-natural Grassland PEN 2023.lyr
- Laith Metadata
- English
- Datganiad
-
These individual map layers are a modelled description of current connectivity between habitats and as such should be considered as descriptive, rather than prescriptive!
- Dyddiad cyfeirnod y set ddata (Cyhoeddiad)
- 2023-08-03
Ystod amser
- Dyddiad cychwyn
- 2008-01-01
- Dyddiad gorffen
- 2023-05-23
- Categori pwnc
-
- Biota
Rhychwant
Rhychwant
- Hyd
- Wales (WLS)
Dosbarthiad
Dosbarthiad
- Fformat - Math a Disgrifiad
-
-
Geographic Information System
(
)
- Math
-
ESRI Feature Class
-
Geographic Information System
(
)
- Lleolwr Adnoddau
- View and Download ( WWW:LINK-1.0-http--link )
- Lleolwr Adnoddau
- Web Mapping Service ( OGC:WMS )
Ansawdd
Ansawdd Data
- Cwmpas Ansawdd
- Dataset
- Datganiad
-
These individual map layers are a modelled description of current connectivity between habitats and as such should be considered as descriptive, rather than prescriptive!
Allweddeiriau
Allweddair
- Math
- Theme
Dyfyniad
- Dyddiad (Cyhoeddiad)
- 2008-06-01
Allweddair
-
NRW Thesaurus
-
- heathland (heaths)
- heathland management
- habitat networks
- habitats (see also specific types of habitats)
- fens
- blanket bogs (blanket mires)
- Math
- Theme
Dyfyniad
- Dyddiad (Cyhoeddiad)
- 2024-06-19
System Cyfeirio Gofodol
Cynnwys
Gwybodaeth Cynnwys
Proffil CNC
Elfennau CNC
Cyfyngiadau
Cyfyngiadau
Cyfyngiadau ar Fynediad a Defnydd Cyhoeddus
- Math o Gyfyngiad
- Other restrictions
Cyfarwyddeb Cyfyngiadau Mynediad
- Cyfyngiadau
- no limitations
Testun cyfyngiadau mynediad
- Cyfyngiadau eraill
-
There are no access restrictions on this data. NRW may release, publish or disseminate it freely.
Defnyddiwch gyfyngiadau
- Cyfyngiadau Defnyddio
- Other restrictions
- Cyfyngiadau eraill
-
© CNC/NRW All rights Reserved. Contains Ordnance Survey Data. Ordnance Survey Licence number AC0000849444. Crown Copyright and Database Right Data may be re-used under the terms of the Open Government Licence providing it is done so, acknowledging both the source and copyright of the owners. It is the recipient's responsibility to ensure the data is fit for the intended purpose.
Datganiad Priodoli
- Cyfyngiadau eraill
-
Contains Natural Resources Wales information © Natural Resources Wales and Database Right. All rights Reserved. Contains Ordnance Survey Data. Ordnance Survey Licence number AC0000849444. Crown Copyright and Database Right.
Math o Drwydded
- Cyfyngiadau eraill
- Open Government Licence
Metadata
Metadata
- Dynodydd Ffeil
- 4f4c4942-4343-5764-6473-313235353732 XML
- Laith Metadata
- English
- Math o adnodd
- Dataset
- Dyddiad Metadata
- 2024-07-24T16:11:57.47Z
- Enw Safonol Metadata
- NRW
- Fersiwn Metadata
-
1.0