• {'logoName' | translate} NRW Data Discovery

Asesiad Cydymffurfiaeth Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACAau) Afonydd Cymru yn erbyn Targedau Ansawdd Dŵr (2017-2019)

Mae’r data hwn yn pennu cydymffurfiaeth Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) afonydd Cymru o ran targedau ar gyfer saith nodwedd ansawdd dŵr: Ocsigen Tawdd, Y Galw Biocemegol am Ocsigen, Cyfanswm yr Amonia, Amonia Heb ei Ïoneiddio, Mynegai Diatomau Troffig, pH a’r Gallu i Niwtralu Asidau. Mae’r targedau a’r dulliau asesu wedi’u pennu ar lefel y DU gan y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur fel y’u cyhoeddwyd yn y ‘Common Standards Guidance for Rivers 2016’, ac maent yn rhan o’r amcanion cadwraeth ar gyfer nodweddion afonol ACAau.


Mae naw ACA yng Nghymru sydd â nodweddion afonol (a elwir yn eu Cynlluniau Rheoli Craidd priodol fel a ganlyn):


Afon Dyfrdwy a Llyn Tegid

Afon Gwyrfai a Llyn Cwellyn

Coedydd Derw a Safleoedd Ystlumod Meirion (Afon Glaslyn)

Afon Eden - Cors Goch Trawsfynydd

Afon Teifi

Afonydd Cleddau

Afon Tywi

Afon Wysg

Afon Gwy

At ddibenion adrodd ar ansawdd dŵr, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn rhannu afonydd yn unedau a elwir yn gyrff dŵr. Aseswyd cyfanswm o 119 o gyrff dŵr (allan o 127 posibl), pob un ag un pwynt samplu, ar gyfer un nodwedd neu fwy.


Cafodd data ansawdd dŵr a gasglwyd gan raglen monitro gwyliadwriaeth arferol CNC am gyfnod o dair blynedd (1 Ionawr 2017 - 31 Rhagfyr 2019) ei dynnu o gronfa ddata ansawdd dŵr (KiWQM) CNC er mwyn asesu cydymffurfiaeth â thargedau.


Nid oedd data ar gael yn achos pob nodwedd ar gyfer pob corff dŵr oherwydd cynllun seiliedig ar risg rhaglenni monitro CNC. Aseswyd y rhan fwyaf o gyrff dŵr ar gyfer mwy nag un nodwedd. Roedd yr holl ddata yn destun prosesau sicrhau ansawdd cadarn. Defnyddiwyd methodolegau casglu a dadansoddi data yn unol â chanllawiau safonol CNC. Mae’r dulliau llawn wedi’u cyflwyno yn yr adroddiad atodol.

  • Dull adnabod
  • Rhychwant
  • Dosbarthiad
  • Ansawdd
  • Allweddeiriau
  • System Cyfeirio Gofodol
  • Cynnwys
  • Cyfyngiadau
  • Cynnal a chadw
  • Metadata

Dull adnabod

Dynodydd
NRW_DS125707
Laith Metadata
English
Datganiad

Data extracted from NRW KiWQM database. Data collection and analysis methodologies undertaken in line with NRW’s standard guidance. All data were subject to robust quality assurance processes. Full methods are presented in the accompanying report.

Gwybodaeth ychwanegol

Foster H., Jones T.G, Jâms, I.B., Hatton-Ellis T.W. 2024. Compliance Assessment of Welsh River SACs Against Water Quality Targets. NRW Evidence Report No: 729, 106pp, Natural Resources Wales, Bangor.

Dyddiad cyfeirnod y set ddata (Cyhoeddiad)
2024-01-11
Perchennog
  Natural Resources Wales (NRW)
Maes-y-Ffynnon, Penrhosgarnedd, Bangor, Gwynedd, LL57 2DW, Wales
http://naturalresources.wales/?lang=en
Cychwynnwr
  Natural Resources Wales (NRW)
Maes-y-Ffynnon, Penrhosgarnedd, Bangor, Gwynedd, LL57 2DW, Wales
http://naturalresources.wales/?lang=en
 

Rhychwant

Rhychwant

Hyd
Wales (WLS)
N
W
E
S
Map representing the geographic extent of the dataset


 
 

Dosbarthiad

Dosbarthiad

Fformat - Math a Disgrifiad
  • Database ( )

    Math

    [A] NRW Evidence Report in either Pdf or Word Format

Lleolwr Adnoddau
View and Download Data ( WWW:LINK-1.0-http--link )
Lleolwr Adnoddau
Web Mapping Service ( OGC:WMS )
 

Ansawdd

Ansawdd Data

Cwmpas Ansawdd
Dataset
Cydymffurfiad
Commission Regulation (EU) No 1089/2010 of 23 November 2010 implementing Directive 2007/2/EC of the European Parliament and of the Council as regards interoperability of spatial data sets and services
Eglurhad

This dataset has not been assessed for conformance to the referenced INSPIRE regulation.

Gradd
false
Datganiad

Data extracted from NRW KiWQM database. Data collection and analysis methodologies undertaken in line with NRW’s standard guidance. All data were subject to robust quality assurance processes. Full methods are presented in the accompanying report.

 

Allweddeiriau

Allweddair

GEMET - INSPIRE themes, version 1.0
  • Hydrography
Math
Theme

Dyfyniad

Dyddiad (Cyhoeddiad)
2008-06-01
Cod
geonetwork.thesaurus.external.theme.httpinspireeceuropaeutheme-theme

Allweddair

NRW Thesaurus

  • Water Quality Assessment
Math
Theme

Dyfyniad

Dyddiad (Cyhoeddiad)
2025-01-08
Cod
geonetwork.thesaurus.local.theme.converted_nrw-keywords

Allweddair

IPSV Subjects List

  • Water quality
Math
Theme

Dyfyniad

Dyddiad (Cyhoeddiad)
2020-11-18
Cod
geonetwork.thesaurus.external.theme.subjects
 

System Cyfeirio Gofodol

Cod
British National Grid (EPSG:27700)
 

Cynnwys

Gwybodaeth Cynnwys

Proffil CNC

Elfennau CNC

 

Cyfyngiadau

Cyfyngiadau

Cyfyngiadau ar Fynediad a Defnydd Cyhoeddus

Math o Gyfyngiad
Other restrictions
 

Cyfarwyddeb Cyfyngiadau Mynediad

Cyfyngiadau
no limitations
 

Testun cyfyngiadau mynediad

Cyfyngiadau eraill

There are no access restrictions on this data. NRW may release, publish or disseminate it freely.

 

Defnyddiwch gyfyngiadau

Cyfyngiadau Defnyddio
Other restrictions
Cyfyngiadau eraill

© CNC/NRW All rights Reserved. Contains Ordnance Survey Data. Ordnance Survey Licence number AC0000849444. Crown Copyright and Database Right Data may be re-used under the terms of the Open Government Licence providing it is done so, acknowledging both the source and copyright of the owners. It is the recipient's responsibility to ensure the data is fit for the intended purpose.

 

Datganiad Priodoli

Cyfyngiadau eraill

Contains Natural Resources Wales information © Natural Resources Wales and Database Right. All rights Reserved. Contains Ordnance Survey Data. Ordnance Survey Licence number AC0000849444. Crown Copyright and Database Right.

 

Math o Drwydded

Cyfyngiadau eraill
Open Government Licence
 
 
 

Metadata

Metadata

Dynodydd Ffeil
4f4c4942-4343-5764-6473-313235373037 XML
Laith Metadata
English
Math o adnodd
Dataset
Dyddiad Metadata
2025-03-05T15:46:24.646Z
Enw Safonol Metadata
NRW
Fersiwn Metadata

1.0

Pwynt Cyswllt
  Natural Resources Wales (NRW)
Maes-y-Ffynnon, Penrhosgarnedd, Bangor, Gwynedd, LL57 2DW, Wales
http://naturalresources.wales/?lang=en
 
 

Corff Cyhoeddi

Mynediad i'r Porth
Mynediad llawn i'r porth a'r metadata.


  •   Ynghylch
  •   Github
  •