KiECO Ecoleg Dŵr Croyw Macroinfertebratau afonydd
Defnyddir macroinfertebratau dŵr croyw fel dangosydd o ansawdd dŵr a gofynion llif afonydd oherwydd eu disymudedd cymharol a’u helaethrwydd. Mae’r set ddata hon yn cynnwys gwybodaeth am safle, sampl, metrigau a thacsonau o arolygon macroinfertebratau afonydd dŵr croyw a gynhaliwyd ledled Cymru gan Cyfoeth Naturiol Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru gynt ers 1978 ac ymlaen. Cynhelir yr arolygon hyn fel rhan o waith monitro parhaus o ansawdd dŵr afonydd ar gyfer gofynion deddfwriaethol ac i fodloni ysgogwyr busnes.
- Dull adnabod
- Rhychwant
- Dosbarthiad
- Ansawdd
- Allweddeiriau
- System Cyfeirio Gofodol
- Cynnwys
- Cyfyngiadau
- Cynnal a chadw
- Metadata
Dull adnabod
- Dynodydd
- NRW_DS161278
- Teitl Amgen
-
- Freshwater River Macroinvertebrates
- KiEco Freshwater River Macro-invertebrates Sample Metric.lyr
- KiEco Freshwater River Macro-invertebrates Site Detail.lyr
- KiEco Freshwater River Macro-invertebrates Taxa.lyr
- Laith Metadata
- English
- Datganiad
-
Defnyddir methodoleg gaeth wrth samplu am facroinfertebrata afonydd dŵr croyw. Mae rhwydwaith craidd o safleoedd sy'n cael eu monitro ar raglen dreigl tair blynedd. Mae'r safleoedd hyn wedi'u lleoli lle mae asesiad risg wedi dangos risg sylweddol o fethiant safonau ansawdd ecolegol y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr. Yn ogystal gellir samplu safleoedd ar gyfer gwaith ymchwiliol neu ar sail ad hoc. Mae ardaloedd samplu wedi'u lleoli gydag ardal arolwg fwy ac mae'n rhaid iddynt fod yn gynrychioliadol o'r ardal arolwg gyffredinol. Cic-sampl tair munud yw’r dull samplu a ddefnyddir amlaf, er lle bo angen, defnyddir dulliau amgen, er enghraifft mewn dŵr dyfnach neu ar gyfer gwaith ymchwiliol. Unwaith y bydd samplau wedi'u casglu, byddant yn cael eu hanfon at labordai ecoleg CNC i'w hadnabod gan ddefnyddio methodolegau safonol, gan ddefnyddio gweithdrefn Rheoli Ansawdd Dadansoddol llym.
Unwaith y bydd y data wedi'i goladu yn y gronfa ddata ganolog, mae wedi'i echdynnu a'i ansawdd wedi'i sicrhau cyn ei gyhoeddi. Mae'n bwysig nodi y bydd y set ddata hon yn cynnwys rhai digwyddiadau samplu o'r misoedd diwethaf lle mae samplu wedi'i wneud ond nad yw dadansoddiad labordy wedi'i gwblhau, felly ni fydd y cyflenwad llawn o dacsonau ar gyfer y digwyddiad samplu hwnnw'n cael ei lanlwytho eto. Bydd y cofnodion hyn yn cael eu cwblhau wrth lanlwytho data yn y dyfodol o CNC i Atlas y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol. Mae'r set ddata hon hefyd yn cynnwys cofnodion ar gyfer rhai rhywogaethau nad ydynt yn macroinfertebratau, megis adar a physgod, a welwyd neu a gasglwyd yn ystod y samplu. Cafodd unrhyw organebau nad oeddent yn darged a gasglwyd yn ystod y samplu eu dychwelyd ar unwaith i'r afon.
Golygiadau
Mae rhywfaint o wybodaeth wedi’i golygu i sicrhau bod y data ar gael yn agored. Mae hyn yn cynnwys:
Data trydydd parti
Data a gasglwyd ar gyfer ymchwiliadau parhaus
Arolygon wedi’u canslo neu heb eu cwblhau
Lleoliad rhywogaethau a warchodir lle gallai rhyddhau manylion eu lleoliad gael effaith andwyol, ee misglod perlog yr afon.
Amlder Diweddaru
Mae'r data hwn yn cael ei ddiweddaru'n barhaus ac mae’r nifer mwyaf o arolygon yn cael eu cynnal yn y gwanwyn a'r hydref. Yn aml, nid yw data o dymhorau arolygon yn cael eu mewnbynnu ar adeg eu cipio a gall fod sawl mis cyn iddo gael ei roi yn y system. Mae’r set ddata allanol yn cael ei diweddaru yn fisol i gynnwys data newydd, a gall hefyd gynnwys cywiriadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol oherwydd gwaith sicrhau ansawdd.
Rhybuddion Gwybodaeth
Gwnawn ein gorau i osgoi problemau ansawdd data, ond gan fod y setiau data hyn yn adlewyrchu’r data sydd gennym, gallant gynnwys gwallau.
Darperir y data fel set o dablau data cysylltiedig oherwydd maint a strwythur y data. Tybir bod dealltwriaeth sylfaenol o ecoleg a data perthynol yn bodoli.
Nid yw data sy'n ymwneud ag ymchwiliadau i achosion o lygredd neu wybodaeth am rywogaethau a warchodir yn cael ei ryddhau oherwydd gallai gwybodaeth am leoliad y safleoedd hyn fod yn niweidiol i ymchwiliadau parhaus neu warchod rhywogaethau.
Nid oes gan bob safle ddata sylfaen amgylcheddol wedi'i restru.
Cofnodwyd llawer o’r data a gasglwyd cyn 2002 gan ddefnyddio graddfa logarithmig 3=A, 33 = B ac ati.
Cyn 2012, dim ond ar lefel teulu yn unig y cofnodwyd y rhan fwyaf o dacsonau, ac ar yr adeg hon gwnaethom symud tuag at gofnodi lefel tacsonau cymysg. Am y rheswm hwn, gall rhai samplau cynnar ddangos bylchau ar gyfer rhai o'r mynegeion a oedd yn gofyn am lefel uwch o fanylion tacsonomig ee rhywogaethau LIFE.
- Dyddiad cyfeirnod y set ddata (Cyhoeddiad)
- 2024-12-31
Ystod amser
- Dyddiad cychwyn
- 1978-04-07
- Categori pwnc
-
- Biota
Rhychwant
Rhychwant
- Hyd
- Wales (WLS)
Dosbarthiad
Dosbarthiad
- Fformat - Math a Disgrifiad
-
-
Delimited
(
)
- Math
-
Data can be downloaded from NBN Atlas in .csv format
-
Delimited
(
)
- Lleolwr Adnoddau
- WMS ( OGC:WMS )
- Lleolwr Adnoddau
- View and Download Service ( WWW:LINK-1.0-http--link )
Ansawdd
Ansawdd Data
- Cwmpas Ansawdd
- Dataset
- Datganiad
-
Defnyddir methodoleg gaeth wrth samplu am facroinfertebrata afonydd dŵr croyw. Mae rhwydwaith craidd o safleoedd sy'n cael eu monitro ar raglen dreigl tair blynedd. Mae'r safleoedd hyn wedi'u lleoli lle mae asesiad risg wedi dangos risg sylweddol o fethiant safonau ansawdd ecolegol y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr. Yn ogystal gellir samplu safleoedd ar gyfer gwaith ymchwiliol neu ar sail ad hoc. Mae ardaloedd samplu wedi'u lleoli gydag ardal arolwg fwy ac mae'n rhaid iddynt fod yn gynrychioliadol o'r ardal arolwg gyffredinol. Cic-sampl tair munud yw’r dull samplu a ddefnyddir amlaf, er lle bo angen, defnyddir dulliau amgen, er enghraifft mewn dŵr dyfnach neu ar gyfer gwaith ymchwiliol. Unwaith y bydd samplau wedi'u casglu, byddant yn cael eu hanfon at labordai ecoleg CNC i'w hadnabod gan ddefnyddio methodolegau safonol, gan ddefnyddio gweithdrefn Rheoli Ansawdd Dadansoddol llym.
Unwaith y bydd y data wedi'i goladu yn y gronfa ddata ganolog, mae wedi'i echdynnu a'i ansawdd wedi'i sicrhau cyn ei gyhoeddi. Mae'n bwysig nodi y bydd y set ddata hon yn cynnwys rhai digwyddiadau samplu o'r misoedd diwethaf lle mae samplu wedi'i wneud ond nad yw dadansoddiad labordy wedi'i gwblhau, felly ni fydd y cyflenwad llawn o dacsonau ar gyfer y digwyddiad samplu hwnnw'n cael ei lanlwytho eto. Bydd y cofnodion hyn yn cael eu cwblhau wrth lanlwytho data yn y dyfodol o CNC i Atlas y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol. Mae'r set ddata hon hefyd yn cynnwys cofnodion ar gyfer rhai rhywogaethau nad ydynt yn macroinfertebratau, megis adar a physgod, a welwyd neu a gasglwyd yn ystod y samplu. Cafodd unrhyw organebau nad oeddent yn darged a gasglwyd yn ystod y samplu eu dychwelyd ar unwaith i'r afon.
Golygiadau
Mae rhywfaint o wybodaeth wedi’i golygu i sicrhau bod y data ar gael yn agored. Mae hyn yn cynnwys:
Data trydydd parti
Data a gasglwyd ar gyfer ymchwiliadau parhaus
Arolygon wedi’u canslo neu heb eu cwblhau
Lleoliad rhywogaethau a warchodir lle gallai rhyddhau manylion eu lleoliad gael effaith andwyol, ee misglod perlog yr afon.
Amlder Diweddaru
Mae'r data hwn yn cael ei ddiweddaru'n barhaus ac mae’r nifer mwyaf o arolygon yn cael eu cynnal yn y gwanwyn a'r hydref. Yn aml, nid yw data o dymhorau arolygon yn cael eu mewnbynnu ar adeg eu cipio a gall fod sawl mis cyn iddo gael ei roi yn y system. Mae’r set ddata allanol yn cael ei diweddaru yn fisol i gynnwys data newydd, a gall hefyd gynnwys cywiriadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol oherwydd gwaith sicrhau ansawdd.
Rhybuddion Gwybodaeth
Gwnawn ein gorau i osgoi problemau ansawdd data, ond gan fod y setiau data hyn yn adlewyrchu’r data sydd gennym, gallant gynnwys gwallau.
Darperir y data fel set o dablau data cysylltiedig oherwydd maint a strwythur y data. Tybir bod dealltwriaeth sylfaenol o ecoleg a data perthynol yn bodoli.
Nid yw data sy'n ymwneud ag ymchwiliadau i achosion o lygredd neu wybodaeth am rywogaethau a warchodir yn cael ei ryddhau oherwydd gallai gwybodaeth am leoliad y safleoedd hyn fod yn niweidiol i ymchwiliadau parhaus neu warchod rhywogaethau.
Nid oes gan bob safle ddata sylfaen amgylcheddol wedi'i restru.
Cofnodwyd llawer o’r data a gasglwyd cyn 2002 gan ddefnyddio graddfa logarithmig 3=A, 33 = B ac ati.
Cyn 2012, dim ond ar lefel teulu yn unig y cofnodwyd y rhan fwyaf o dacsonau, ac ar yr adeg hon gwnaethom symud tuag at gofnodi lefel tacsonau cymysg. Am y rheswm hwn, gall rhai samplau cynnar ddangos bylchau ar gyfer rhai o'r mynegeion a oedd yn gofyn am lefel uwch o fanylion tacsonomig ee rhywogaethau LIFE.
Allweddeiriau
Allweddair
- Math
- Theme
Dyfyniad
- Dyddiad (Cyhoeddiad)
- 2008-06-01
Allweddair
-
NRW Thesaurus
-
- NBN Atlas
- biological monitoring
- freshwater invertebrate
- freshwater biology
- biological surveys
- freshwater (fresh water, open water) (see also freshwater ecology) (see also inland waters,rivers,lakes)
- Math
- Theme
Dyfyniad
- Dyddiad (Cyhoeddiad)
- 2024-06-19
System Cyfeirio Gofodol
Cynnwys
Gwybodaeth Cynnwys
Proffil CNC
Elfennau CNC
Cyfyngiadau
Cyfyngiadau
Cyfyngiadau ar Fynediad a Defnydd Cyhoeddus
- Math o Gyfyngiad
- Other restrictions
Cyfarwyddeb Cyfyngiadau Mynediad
- Cyfyngiadau
- no limitations
Testun cyfyngiadau mynediad
- Cyfyngiadau eraill
-
There are no access restrictions on this data. NRW may release, publish or disseminate it freely.
Defnyddiwch gyfyngiadau
- Cyfyngiadau Defnyddio
- Other restrictions
- Cyfyngiadau eraill
-
© CNC/NRW Data may be re-used under the terms of the Open Government Licence providing it is done so, acknowledging both the source and NRW's copyright. It is the recipient's responsibility to ensure the data is fit for the intended purpose. Attribution statement: Contains Natural Resources Wales information © Natural Resources Wales and Database Right. All rights Reserved.
Datganiad Priodoli
- Cyfyngiadau eraill
-
Contains Natural Resources Wales information © Natural Resources Wales and Database Right. All rights Reserved.
Math o Drwydded
- Cyfyngiadau eraill
- Open Government Licence
Metadata
Metadata
- Dynodydd Ffeil
- 4f4c4942-4343-5764-6473-313631323738 XML
- Laith Metadata
- English
- Dynodydd Rhiant
-
Natural Resources Wales (NRW) Ecological Data held in WISKI (KiEco)
NRW_DS122446
- Math o adnodd
- Dataset
- Dyddiad Metadata
- 2025-01-02T09:41:29.219Z
- Enw Safonol Metadata
- NRW
- Fersiwn Metadata
-
1.0